Am HwbHwyliau

Loading the player...

'Dyma, siŵr o fod, y platfform digidol cyntaf ar gyfer iechyd meddwl i mi ei weld lle rydw i wedi meddwl - rydw i'n mynd i edrych ar hwn yn nes ymlaen, efallai y bydd hyn yn fy helpu, mewn gwirionedd.'

'Roedd yn teimlo y gallai wneud rhywbeth mewn gwirionedd.'

'Mae'r ap yn teimlo y gallai fod yn fwy personol na rhai apiau eraill sy'n teimlo fel eich bod chi'n siarad â robot.'

'Efallai na fydd rhai rhieni'n deall sut i gefnogi plentyn â phroblemau iechyd meddwl. Mae'n ymddangos y byddai'r ap yn ddefnyddiol iawn ar gyfer addysgu'r rhiant a'r person ifanc.'

Dyfyniadau o bobl ifanc am HwbHwyliau

Croeso i HwbHwyliau

Datblygu HwbHwyliau: Gallwch wylio fideo a darllen mwy am sut y datblygwyd HwbHwyliau, a sut y gallwch ddefnyddio’r wefan a’r ap yma.

Mae'n normal i bobl ifanc deimlo'n isel a pheidio â mwynhau pethau weithiau
. Os fydd y teimladau hynny'n para am amser hir neu'n dod yn ôl yn gyson, ac yn dechrau effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd, gall hyn fod yn arwydd fod angen help arnynt. Naill ai drwy ddod o hyd i ffyrdd i helpu eu hunain, neu drwy gael help gan eraill.

Mae hwyliau isel a phryder yn aml yn digwydd gyda'i gilydd, a gallant effeithio ar bobl o unrhyw oedran. Mae'n gyffredin i bobl ifanc i brofi’r anawsterau yma.

Gall y rhaglen hon ei ddefnyddio fel gwefan neu ap. Mae wedi'i anelu at bobl ifanc - a'u teuluoedd, gofalwyr, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol - sy'n awyddus i wybod mwy am hwyliau, pryder, iselder ac anawsterau iechyd eraill. Mae hefyd yn cynnwys cyngor ar hunangymorth, ffyrdd o aros yn iach, a ble i gael help.

- Efallai y byddwch yn ei ddefnyddio am eich bod yn cael anawsterau, er enghraifft, os ydych yn teimlo'n isel, yn ofidus neu o dan bwysau. Mae'n bosibl mai dim ond nifer fach o anawsterau sydd gennych, neu efallai bod gennych lawer sy'n effeithio'n sylweddol ar eich bywyd. Efallai eich bod hyd yn oed wedi cael diagnosis o iselder neu bryder.

- Neu efallai eich bod yn pryderu y gallech wynebu anawsterau yn y dyfodol. Er enghraifft, os oes rhywun yn y teulu wedi wynebu problemau gyda hwyliau isel neu bryder, neu os ydych o dan gryn dipyn o bwysau.

- Neu efallai y bydd aelod o'ch teulu, gofalwr, ffrind neu weithiwr proffesiynol sy'n poeni am berson ifanc yn ei ddefnyddio.

Cafodd y rhaglen hon ei ddatblygu drwy siarad â llawer o bobl ifanc, gan gynnwys llawer sydd wedi cael anawsterau, yn ogystal â theuluoedd, gweithwyr proffesiynol a dylunwyr. Mae hefyd yn seiliedig ar y gwaith ymchwil gorau sydd ar gael, a chaiff ei gefnogi gan lawer o sefydliadau. Cafodd ei lunio er mwyn iddo fod yn ddiogel, yn breifat ac yn gyfrinachol.

Mae sawl opsiwn i helpu i greu eich fersiwn bersonol. Efallai y byddwch am ei ddefnyddio ar eich pen eich hun neu gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo. Gallwch hefyd ddewis yr iaith. A gallwch ddefnyddio'r botwm 'cuddio' er mwyn gadael yn gyflym ar unrhyw adeg. Drwy ateb y cwestiynau ar y dechrau, gallwch ddod o hyd i'r adrannau sydd fwyaf perthnasol i chi, ac mae'n eich helpu i sylwi sut rydych yn teimlo, er mwyn i chi allu gwybod pryd y gallai fod angen i chi wneud rhywbeth yn wahanol, neu bryd i ofyn i rywun arall am help. Gallwch hefyd symud ymlaen heb ateb cwestiynau, a phori drwyddynt yn unig, caiff unrhyw wybodaeth a gofnodwch yn y rhaglen ond ei weld ganddo’ch chi, er allech fod yn awyddus i'w dangos i rywun rydych yn ymddiried ynddo.

Mae'r rhaglen yn cynnwys saith adran. Mae'n bosibl y bydd rhai adrannau yn fwy perthnasol i chi nag eraill, a gallwch weithio drwyddynt mewn ffordd sy’n ddefnyddiol i chi. Mae'n cymryd tua 15 i 20 munud i gwblhau pob adran. Mae chwech o'r saith adran wedi'u hysgrifennu'n bennaf ar gyfer pobl ifanc. Mae’r adrannau yn ymdrin â: 'beth yw hwyliau isel a phryder?’, rhesymau posibl, hunangymorth, ble i gael help ac anawsterau iechyd eraill. Mae adran arall i deuluoedd, gofalwyr, ffrindiau neu weithwyr proffesiynol - ac mae'r adran hon yn ategu'r pynciau yn yr adrannau i bobl ifanc.

Mae yna ddyddiadur hwyliau i helpu i sylwi sut rydych yn teimlo. Gallwch hefyd osod targedau i chi'ch hun, a storio dolenni i adnoddau defnyddiol. Mae eich ymddygiadau, eich meddyliau a'ch teimladau i gyd yn gysylltiedig, ac os ydych yn mynd i'r afael â rhesymau neu sbardunau posibl, ac yn ceisio gwneud neu feddwl am bethau'n wahanol - yna gall hyn newid sut rydych yn teimlo.

Cofiwch, os ydych yn wynebu anawsterau sy'n effeithio ar eich bywyd, mae'n well siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddynt neu gael help gan weithiwr proffesiynol - yn hytrach na’u cadw i chi'ch hun. Mae dolen i'r adran 'ble i gael help' ar y sgrin hafan.

Gall y rhaglen helpu unrywun sydd am gael gwybod mwy am hwyliau isel, pryder ac iselder ym mhobl ifanc - gallwch ddefnyddio'r adrannau a'r animeiddiadau o'r rhaglen dro ar ôl tro, pryd bynnag y bydd eu hangen.