Lawrlwytho'r ap
Ap HwbHwyliau
Ar gyfer yr astudiaeth ‘Cefnogaeth digidol i bobl ifanc gyda’u hwyliau a’u lles’.
Dadlwythwch ef am ddim o'r siopau App Store® (iOS) neu Google Play ™.
Chwiliwch am HwbHwyliau (neu 'MoodHwb' am y fersiwn Saesneg).
Gwella'r app
Byddem wrth ein bodd yn clywed eich meddyliau ar yr ap fel y gallwn wella eich profiad. Gallwch chi roi adborth gan ddefnyddio'r deilsen adborth yn yr ap neu trwy anfon e-bost atom yn uniongyrchol ar YmchwilPoblIfancArlein@cf.ac.uk . Gallwch hefyd roi gwybod i ni pan fyddwch chi'n cwblhau'r holiaduron neu os ydyn ni'n cwrdd â chi yn ystod yr astudiaeth.
Wedi gweld byg?
Os byddwch chi'n gweld nam, rhowch wybod i ni naill ai trwy'r ap neu e-bostiwch YmchwilPoblIfancArlein@cf.ac.uk.
Polisi preifatrwydd
Darllenwch ein gwybodaeth preifatrwydd a hygyrchedd.
Defnyddiol ar gyfer
• Dysgu am hwyliau a lles (ac iselder a phryder)
• Dysgu am hunangymorth a ble i gael help
• Sylwi ar newidiadau yn eich hwyliau trwy ddefnyddio'r dyddiadur hwyliau
• Gosod targedau i chi'ch hun
• Ychwanegu dolenni defnyddiol
• Cael cefnogaeth gan rieni, gofalwyr, ffrindiau neu weithwyr proffesiynol
O dan y boned
Mae'r rhaglen hon yn cael ei bweru gan dîm ymchwil Prifysgol Caerdydd a chwmni cyfryngau digidol Made by Moon.