Sut y gall hwn fy helpu?

Loading the player...

Croeso i HwbHwyliau

Mae'n normal i bobl ifanc deimlo'n isel a pheidio â mwynhau pethau weithiau, ond pan fydd y teimladau hynny'n ddifrifol, yn para am amser hir neu'n dod yn ôl yn gyson, ac yn dechrau effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd, gall hyn fod yn arwydd o iselder.

Gall iselder effeithio ar bobl o unrhyw oedran, a phob blwyddyn, mae cymaint ag un o bob 20 o bobl ifanc yn dioddef ohono.

Mae'r pecyn hwn wedi'i anelu at bobl ifanc - a'u teuluoedd, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol sy’n delio a phobl ifanc - sy'n awyddus i wybod mwy am hwyliau, iselder a materion iechyd eraill. Mae hefyd yn cynnwys cyngor ar hunangymorth a ffyrdd o aros yn iach, a ble i gael help.

  • Efallai y byddwch yn ei ddefnyddio am eich bod yn cael anawsterau, er enghraifft, os ydych yn teimlo'n isel neu o dan bwysau. Mae'n bosibl mai dim ond nifer fach o anawsterau sydd gennych, neu efallai bod gennych lawer sy'n effeithio'n sylweddol ar eich bywyd. Efallai eich bod hyd yn oed wedi cael diagnosis o iselder yn barod.
  • Neu efallai eich bod yn pryderu y gallech wynebu anawsterau yn y dyfodol. Er enghraifft, os oes rhywun yn y teulu wedi wynebu problemau gyda'i hwyliau, neu os ydych o dan gryn dipyn o bwysau.
  • Neu efallai y bydd aelod o'ch teulu, gofalwr, ffrind neu weithiwr proffesiynol sy'n poeni am berson ifanc yn ei ddefnyddio.


Cafodd y pecyn hwn ei ddatblygu drwy siarad â llawer o bobl ifanc, gan gynnwys llawer sydd wedi cael anawsterau, yn ogystal â theuluoedd, gweithwyr proffesiynol a dylunwyr. Mae hefyd yn seiliedig ar y gwaith ymchwil gorau sydd ar gael, a chaiff ei gefnogi gan lawer o sefydliadau. Cafodd ei lunio er mwyn iddo fod yn ddiogel, yn breifat ac yn gyfrinachol.

Mae sawl opsiwn i helpu i greu eich fersiwn bersonol...Efallai y byddwch am ei ddefnyddio ar eich pen eich hun neu gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo…Gallwch hefyd ddewis yr iaith…A gallwch ddefnyddio'r botwm 'cuddio' er mwyn gadael yn gyflym ar unrhyw adeg…Drwy ateb y cwestiynau ar y dechrau, gallwch ddod o hyd i'r adrannau sydd fwyaf perthnasol i chi…ac mae'n eich helpu i fonitro sut rydych yn teimlo, er mwyn i chi allu gwybod pryd y gallai fod angen i chi wneud rhywbeth yn wahanol, neu pryd i ofyn i rywun arall am help…gallwch hefyd symud ymlaen heb ateb cwestiynau, a phori drwyddynt yn unig…caiff unrhyw wybodaeth a gofnodwch yn y pecyn ei storio yn yr adran proffil personol…dim ond y person sy'n defnyddio'r pecyn all weld yr adran hon, er allech fod yn awyddus i'w dangos i rywun rydych yn ymddiried ynddo.

Mae'r pecyn yn cynnwys chwe adran, a cheir llawer o luniau, animeiddiadau, straeon personol, ac isadrannau rhyngweithiol. Mae'n bosibl y bydd rhai adrannau yn fwy perthnasol i chi nag eraill. Mae'n cymryd tua 15 munud i gwblhau pob adran, ond gallwch adael pob adran a dychwelyd iddi, os nad ydych am orffen yr adran gyfan yn y fan a’r lle. Mae pump o'r chwe adran wedi'u hysgrifennu'n bennaf ar gyfer pobl ifanc: fel arfer, mae'n well dechrau gyda'r adran 'beth yw hwyliau ac iselder’… Mae'r adrannau eraill yn cynnwys: rhesymau posibl dros iselder, hunangymorth, ble i gael help ac anawsterau iechyd eraill, fel pryder...Mae adran arall i deuluoedd, ffrindiau neu weithwyr proffesiynol - ac mae'r adran hon yn ategu'r pynciau yn yr adrannau i bobl ifanc.

Mae ap ar gael hefyd i'w lawrlwytho - i'ch helpu i fonitro eich hwyliau a materion eraill, storio dolenni i adnoddau defnyddiol a gosod targedau i chi'ch hun.

Cofiwch, os ydych yn wynebu anawsterau difrifol sy'n effeithio ar eich bywyd, mae'n well siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo neu gael help - yn hytrach na chadw'r anawsterau i chi'ch hun. Mae’n bosibl trin iselder – ac mae dolen i'r adran 'ble i gael help' ar y sgrin groeso.

Gall y pecyn helpu unrywun sydd am gael gwybod mwy am hwyliau ac iselder ym mhobl ifanc - gallwch ddefnyddio'r adrannau a'r animeiddiadau o'r pecyn dro ar ôl tro, pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch.